Ynglŷn â'r prosiect Dyfodol Gwyrdd Glân
Mae partneriaeth unigryw ledled Cymru wedi’i sefydlu i ddatblygu dull trin i sector a oedd yn flaenorol yn anodd ei ailgylchu.
Amcangyfrifir bod tua 40,000 tunnell o Gynhyrchion Hylendid Amsugno (AHP), sy’n cynnwys cewynnau tafladwy a chynhyrchion anymataliaeth yn y llif gwastraff yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i 200 miliwn o gewynnau y flwyddyn yng Nghymru a dros hanner miliwn y dydd. Mae hyn yn syfrdanol. Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn ‘ailgylchu’ eu Cynhyrchion Hylendid Amsugno ers ychydig flynyddoedd a nod y prosiect yma yw adeiladu ar hyn a’i wella ymhellach trwy ddarparu dull trin/ailgylchu cynaliadwy y mae modd i gynghorau yng Nghymru ei ddefnyddio.
Mae carfan brosiect ‘Dyfodol Gwyrdd Glân’,/’Clean Green Future’ wedi’i sefydlu ar ran Awdurdodau Lleol Cymru mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Mae’n ceisio caffael dull trin/ailgylchu fforddiadwy a chynaliadwy ar gyfer gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol yng Nghymru.
Yn nod yw ceisio sicrhau darpariaeth seilwaith gynaliadwy a’r deilliant o fudd mwyaf i’r economi a’r amgylchedd i Gymru gyfan.
A oeddech chi'n gwybod?
Mae Cynhyrchion Hylendid Amsugnol yn cyfrif am oddeutu 9% o gasgliadau bagiau/biniau du ymyl y ffordd (gwastraff gweddilliol sy’n cael ei gasglu).
Mae nifer o awdurdodau lleol yn dal i gasglu AHP yn rhan o’u casgliadau bagiau/biniau du (llif gwastraff gweddilliol) i’w gwaredu trwy’u hanfon i safleoedd tirlenwi neu drwy drin y gwastraff i’w droi’n ynni.
Fel gwlad rydyn ni’n edrych i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint ag y bo modd mewn ymgais i fod yn genedl ddiwastraff sy’n gweithredu mewn economi gylchol. O ganlyniad, mae awdurdodau lleol ynghyd â Llywodraeth Cymru yn chwilio am atebion mwy fforddiadwy a chynaliadwy i reoli gwastraff. Byddai cael gwared ar gydrannau gwastraff pwdr a chas, e.e. gwastraff bwyd a chynhyrchion AHP, yn arwain y ffordd i hwyluso’r cyfle i leihau pa mor aml mae casgliadau gwastraff gweddilliol yn digwydd.
Mae nifer o ddatblygiadau arloesol wedi bod yn y ffordd y mae gwastraff AHP yn cael ei reoli. Nod y prosiect yw defnyddio’r rhain i ddatblygu’r gwastraff yma’n ddull trin/ailgylchu gwerthfawr, gan arwain at effaith lai o ran carbon ar Gymru. Yn y gorffennol, roedd yn cael ei ystyried yn fater gwaredu gwastraff cadarn.