Nod y prosiect yw bod datrysiad yn cael ei ddarparu i Awdurdodau Lleol Cymru sy’n:
- Lleihau gwastraff gweddilliol ac yn ailgylchu gwastraff AHP yn gynnyrch terfynol.
- Cyflawni cyfradd ailgylchu amlwg sy mor isel â phosibl.
- Sicrhau llai o effaith carbon ar Gymru.
- Cefnogi’r economi werdd, buddion cymunedol ac yn creu cyflogaeth yng Nghymru.
- Yn fforddiadwy i gynifer o Awdurdodau Lleol (ALl) sy’n cymryd rhan ag sy’n bosibl.
A oeddech chi'n gwybod?
Mae WRAP yn amcangyfrif fod oddeutu 40,000 tunnell o AHP yng ngwastraff trefol Awdurdodau Lleol ledled Cymru.
Mae llawer o’r AHP yn y llif gwastraff gweddilliol. Mae’r amcangyfrif yma yn debygol o gynyddu o ganlyniad i dwf yn y boblogaeth, am fod proffil y boblogaeth sy’n heneiddio yn uwch na’r cyffredin ar gyfer Cymru ac oherwydd strategaeth “heneiddio yn ei le” Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.